Porsche
- Gofal: Erthygl ar wnaethurwr ceir, a brand ceir Porsche AG yw hon. Ceir hefyd Porsche Automobil Holding SE, sef prif ddaliwr cyfranddaliadau Volkswagen AG.
Cwmni gweithgynhyrchu ceir Almaenig ydy Dr. Ing. h.c. F. Porsche AG, a dalfyrir fel arfer yn Porsche AG (ynganiad Almaeneg: [ˈpɔʁʃə] (gwrando)), sy'n gwerthu ceir moethus a chyflym. Yn Stuttgart y lleolwyd pencadlys y cwmni, a'i berchennog yw Volkswagen AG - a phrif berchennog Volkswagen AG yw Porsche Automobil Holding SE. Ymhlith y ceir cyfredol mwyaf nodedig mae: 718 Boxster/Cayman, 911, Panamera, Macan a'r Cayenne.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Volkswagen AG
Sefydlwyd y cwmni gwreiddiol gan Ferdinand Porsche dan yr enw "Dr. Ing. h. c. F. Porsche GmbH" (Gesellschaft mit beschränkter Haftung) yn 1931,[1] gyda'i brif swyddfa yn Kronenstraße 24 yng nghanol Stuttgart.[2] Ymgynghorwyr ceir oeddent i ddechrau, ac nid oedden nhw'n cynhyrchu ceir.[1] Ond yna crewyd 'car y bobl', neu'r "Volkswagen"[1] a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel 'y chwilen'.
Logo'r cwmni
[golygu | golygu cod]Sylfaenwyd logo'r cwmni ar arfbais talaith rydd Württemberg, a oedd yr adeg honno'n rhan o'r Almaen, gyda Stuttgart yn Brifddinas. Unwyd y rhain gydag arfbais Stuttgart ei hun er mwyn i'r testun sillafu "Porsche" a "Stuttgart"; oherwydd ei fod yn cynnwys testun, ni ellir, felly ei ddiffinio fel 'arfbais'.
-
Logo Porsche
-
Gwladwriaeth y Weimar: arfbais Württemberg
-
Arfbais Stuttgart
Datblygu'n siâp gwahanol
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, esblygodd y math 356 o'r 'Chwilen': crewyd injan arbennig, y trawsyrrwr a'r croglin (suspension) a chyn hir roedd y rhan fwyaf o'r darnau wedi'u gwneud yn arbennig ar gyfer ceir a ddaethpwyd i'w hadnabod fel ceir Porsche. Dyluniwyd y corff main ei olwg gan Erwin Komenda, a oedd cyn hynny wedi dylunio corff 'y Chwilen'. Un o'r pethau sydd wedi goroesi ers y cyfnod hwn, yw'r injan cefn a oerir gan aer.
Yn 1964, wedi ychydig o lwyddiant yn y byd rasio, gyda modelau fel y 550 Spyder, a'r 356 teimlwyd ei bod yn bryd ail-gynllunio ar raddfa fawr a lansiwyd y 911. Unwaith eto cafwyd injan cefn a oerir gan aer, 6-silindr o fath "boxer". Arweiniwyd y gwaith hwn gan fab hynaf Ferry Porsche sef Ferdinand Alexander Porsche (F. A.).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 J. P. Vettraino (23 Rhagfyr 2008). "Porsche at 60: The little sports-car company that could". Autoweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 30 Ionawr 2009.
- ↑ "Historie - Porsche Engineering". Porsche Engineering. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.